TRAED BACH
NID YW BYTH YN RHY GYNNAR I SEFYDLU ARFERION IACH.
Traed Bach yw ein hystod oweithgareddau cerdded i blant 2-5 mlwydd oed, wedi’u cynllunio’n benodol i'w ddefnyddio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Mae adnoddau Traed Bach yn berffaith ar gyfer cyflwyno manteision cerdded i blant ifanc a'u teuluoedd, gan eu hannog i fabwysiadu arferion cerdded iach trwy bynciausy’n gysylltiedig â'r Nodau Dysgu Cynnar.
RYDYM NI’N FALCH IAWN O GYFLWYNO'R PECYN GWEITHGAREDDAU NEWYDD SBON 'TRAED BACH – ELFED', MEWN PARTNERIAETH AG ANDERSEN PRESS, CYHOEDDWR LLYFRAU ELFED GAN DAVID MCKEE.
Mae'r pecyn Elfed yn ymuno â'n hystod bresennol o weithgareddau Traed Bach ar gyfer plant 2-5 mlwydd oed. Mae'n cynnwys set o adnoddau lliwgar a diddorol sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, perffaith ar gyfer cyflwyno manteision cerdded i blant ifanc a'u teuluoedd!
Archebu Traed Bach
SUT MAE TRAED BACH YN GWEITHIO?
Mae pob gweithgaredd Traed Bach yn daith gerdded ar y cyd ar gyfer hyd at 30 o blant a'u teuluoedd. Mae'r gweithgareddau ar thema i helpu plant i ddysgu am y byd o'u cwmpas. Gellir eu cyflwyno ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ac yn gyffredinol maen nhw’n cael eu rhedeg dros gyfnod o 2-4 wythnos.
MAE TRAED BACH AR GAEL MEWN TRI AMRYWIAD:
1) TRAED BACH – ELFED– rhifyn arbennig wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth ag Elfed yr Eliffant Clytwaith, y cymeriad lliwgar a grëwyd gan David McKee sydd wedi ymddangos mewn mwy na 30 o lyfrau yn y gyfres.
2) POBL SY'N EIN HELPU NI– cyflwyniad i'r bobl sy'n ein helpu ni yn y gymuned, fel diffoddwyr tân, gweithwyr post ac athrawon.
3) BWYSTFILOD BACH – cyflwyno creaduriaid bach sy’n gyffredin yn y DU, fel gloÿnnod byw, mwydod ac buchod coch cwta.
Mae cyflwyno Traed Bach - Elfed yn cael ei gefnogi gan byped llaw Elfed. Mae amrywiadau eraill yn cael eu cefnogi gan Strider, ein masgot cerdded i'r ysgol!
YM MHOB PECYN, BYDDWCH YN GWELD Y CANLYNOL:
• Llythyr rhagarweiniol i ymarferwyr
• Canllaw gweithgareddau
• 30 llyfryn gwybodaeth a gweithgareddau i deuluoedd
• Map taith a sticeri
• Sticeri gwobrwyo disgyblion
Mae Cyflwyno Traed Bach yn cael ei gefnogi gan Strider, ein masgot Cerdded i’r Ysgol!