Skip to main content Skip to footer

Cerdded i'r ysgol yng Nghymru 

Rydym ni am i bob plentyn sy'n gallu cerdded i'r ysgol allu gwneud hynny ar strydoedd diogel a chroesawgar.

Gall disgyblion yng Nghymru elwa o fod yn actif ar y ffordd i’r ysgol gyda WOW – ein her cerdded i'r ysgol drwy gydol y flwyddyn – yn Gymraeg a Saesneg.

Gallwn hefyd helpu i weithredu Strydoedd Ysgol – lle mae strydoedd ar gau i draffig ar amseroedd gollwng a chasglu.

A group of primary school aged pupils crossing the road

WOW yng Nghymru

Mae WOW – ein her cerdded i'r ysgol yn gweld disgyblion yn cofnodi sut maen nhw'n cyrraedd yr ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW gyda'r rhai sy'n cerdded, olwyno, beicio, sgwtera neu 'Parcio a Cherdded' i'r ysgol yn cael bathodyn WOW misol.

Mae miloedd o blant ledled Cymru yn mwynhau manteision cerdded i'r ysgol gyda WOW diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Dros y ddwy flynedd nesaf, rydym yn ymgysylltu â 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd yn ein rhaglen cerdded i'r ysgol.

A group of pupils with Strider, Living Streets' mascot

Strydoedd Ysgolion

Sut mae'r strydoedd o amgylch eich ysgol leol ar amseroedd gollwng a chasglu? Fel arfer, yr ateb yw prysur a pheryglus!

Dychmygwch os oedd y stryd ar agor ac yn groesawgar gyda digon o le i blant gerdded, sgwtera a beicio'n ddiogel pan fyddant yn cyrraedd bob bore!

Yng Nghymru, rydym yn anelu at gael mwy o ysgolion ledled y wlad i weithredu Strydoedd Ysgol. Mae'r cynlluniau hyn – lle mae ceir yn cael eu hatal rhag mynd i fyny i gatiau'r ysgol ar amseroedd gollwng a chasglu – wedi cael eu treialu'n llwyddiannus mewn trefi a dinasoedd yn y DU.

Darganfyddwch beth yw barn disgyblion Ysgol Gynradd Peter Lea am y fenter.