Skip to main content Skip to footer

Cerdded i'r ysgol yng Nghymru 

Rydym ni am i bob plentyn sy'n gallu cerdded i'r ysgol allu gwneud hynny ar strydoedd diogel a chroesawgar.

Gall disgyblion yng Nghymru elwa o fod yn actif ar y ffordd i’r ysgol gyda WOW – ein her cerdded i'r ysgol drwy gydol y flwyddyn – yn Gymraeg a Saesneg.

Gallwn hefyd helpu i weithredu Strydoedd Ysgol – lle mae strydoedd ar gau i draffig ar amseroedd gollwng a chasglu.

A group of primary school aged pupils crossing the road

WOW yng Nghymru

Mae WOW – ein her cerdded i'r ysgol yn gweld disgyblion yn cofnodi sut maen nhw'n cyrraedd yr ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW gyda'r rhai sy'n cerdded, olwyno, beicio, sgwtera neu 'Parcio a Cherdded' i'r ysgol yn cael bathodyn WOW misol.

Mae miloedd o blant ledled Cymru yn mwynhau'r manteision o gerdded i'r ysgol, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n ymgysylltu â 200 o ysgolion cynradd, 42 o ysgolion uwchradd a 25 o feithrinfeydd mewn rhaglenni cerdded i'r ysgol yng Nghymru, gyda chyllid tan fis Ebrill 2026.

Gallwch wylio ein cyflwyniad am WOW yng Nghymru yma.

A group of pupils with Strider, Living Streets' mascot

Strydoedd Ysgol

Sut mae'r strydoedd o amgylch eich ysgol leol ar amseroedd danfon a chasglu? Yr ateb nodweddiadol yw llawn tagfeydd, prysur a pheryglus!

Dychmygwch pe bai'r stryd yn agored ac yn groesawgar gyda digon o le i blant gerdded, mynd ar sgwter a beicio'n ddiogel pan fyddant yn cyrraedd bob bore!

Yng Nghymru, ein nod yw cael mwy o ysgolion ledled y wlad i weithredu Strydoedd Ysgol. Mae'r cynlluniau hyn – lle mae ceir yn cael eu hatal rhag mynd at gatiau'r ysgol ar adegau danfon a chasglu – wedi cael eu treialu'n llwyddiannus mewn trefi a dinasoedd yn y DU.

Gallwch ddarganfod beth mae disgyblion Ysgol Gynradd Peter Lea yn ei feddwl am y fenter.